Twf Swyddi Cymru

Eisiau tyfu’ch busnes?

Os ydych wedi bod yn ystyried cyfle busnes newydd, cynllun ehangu neu arallgyfeirio, yna gall Twf Swyddi Cymru roi hwb i’ch syniadau.
Os gyflogwch chi berson ifanc di-waith, fe dalwn ni’r Isafswm Cyflog Cenedlaethol am eu hoedran am y 6 mis cyntaf.

Y buddion i’ch busnes

  • Fe dalwn ni gyfraniad tuag at gyflog y person ifanc am chwe mis.
  • Caiff eich swydd ei hysbysebu i bobl ifanc sy’n barod am waith ac sy’n egnïol, yn frwdfrydig ac yn ymroddedig.
  • Fe gewch gymorth recriwtio am ddim.
  • Byddwch yn rhoi cyfle euraidd i berson ifanc i ddechrau ar yrfa dda.

Pa gymorth a gawn ni?

Dylai hon fod yn swydd go iawn. Rydyn ni’n ymwybodol bod recriwtio staff newydd yn cymryd amser ac ymdrech. Fe gewch gefnogaeth asiant a fydd yn eich galluogi chi i gael y gorau o’ch gweithiwr newydd o’r diwrnod cyntaf un.

I helpu gyda’r broses recriwtio, rydyn ni wedi contractio asiantau ledled Cymru i weithio gyda chi. Gallan nhw roi cyngor a chymorth am ddim ichi i ddod o hyd i ymgeiswyr priodol.

Hefyd, byddwn yn rhestru’r holl swyddi gwag yn adran Twf Swyddi Cymru ar wefan gyrfacymru.com. Yna, gall pobl ifanc sy’n barod am waith wneud cais ar-lein.

Eich ymrwymiad chi

Yn gyfnewid am y cymorth recriwtio a’r cyfraniad ariannol tuag at gyflog eich gweithiwr newydd, rydyn ni angen y canlynol gennych chi:

  • Rhaid i’r person ifanc gael ei gyflogi am rhwng 25 a 40 awr yr wythnos gyda chontract am 6 mis o leiaf.
  • Rhaid i bob swydd a grëir fod yn swyddi ychwanegol i’ch anghenion gweithlu cyfredol. Ni allwch lenwi swydd sydd eisoes wedi ei hysbysebu, na chreu swydd i gyflenwi am salwch neu gyfnod mamolaeth.
  • Dylai pob swydd a grëir fod yn gynaliadwy gyda’r nod o gadw’r gweithiwr y tu hwnt i’r cyfnod cychwynnol o chwe mis.

Os yw’r person wedi creu argraff mewn chwe mis, dychmygwch faint o gaffaeliad y gallai fod i’ch busnes ar ôl hyfforddiant trylwyr, fel prentisiaeth er enghraifft.

A yw fy musnes yn gymwys am gymorth?

Mae yna feini prawf, ac mae’n rhaid i’r cyflogwr fod wedi masnachu am o leiaf chwe mis yn y sector preifat neu’r trydydd sector ac wedi’i leoli yng Nghymru. Gwiriwch a ydych yn gymwys gyda’r Porth Sgiliau Fusnes ar 03000 6 03000 neu mynegwch eich diddordeb yn business.wales.gov.uk/skillsgateway/cy/jobs-growth-wales-form.

Cefnogir rhaglen Twf Swyddi Cymru, a arweinir gan Lywodraeth Cymru, gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop.

Manon Parry  Tel: 01286 677275  Ebost:  manon@adt.ac.uk

Pin It on Pinterest

Share This