Gan Mark Church.

Mae lawer o astudiaethau wedi darganfod fod un mewn deg o oedolion yng Nghymru gyda Llythrennedd o dan Level 1. Mae llawer yn teimlo fod yna stigma o amgylch y mater ac yn osgoi i siarad am dano.

Mi nes i adael ysgol yn methu darllen nac ysgrifennu yn hyderus, a dwi wedi gwario cymaint of fy mywyd oedolyn yn ‘trio’ neu osgoi sefyllfa lle fyswn yn cael fy nghwestiynu. Oni methu codi llyfr darllen neu bapur newydd fel pobol eraill. Dechreuodd bethau newid pan newidiais fy swydd o waith llaw i rywbeth mwy technegol a sylwais baswn yn gorfod wynebu’r broblem. Mi sylwais na fyswn yn medru cario blaen gyda’r lefelau oedd gennyf. Mi ddychrynais!

“Dwi’n gwybod fy mod yn medru neud hyn os nai drio, a nai ddim rhoi i fyny. Mae fy mhrofiad yn destun na tydi o ddim rhy hwyr i ddysgu sgiliau newydd!”

Byth rhy hwyr

Mae’r undeb GMB wedi trefnu hyfforddiant un-a-un gyda ADT i mi wella fy Sgiliau Hanfodol, a rŵan dwi wedi ennill cymwysterau.
Diolch am y cymorth gefais, rwyf yn nawr yn hyderus i siarad yn gyhoeddus ac yn gallu cynnal trafoda’u, ac rwyf yn frwdfrydig i ddysgu.

Dwi’n teimlo fel person newydd – mae’n un o’r pethau gorau dwi wedi neud. Mae o wedi gwneud gwahaniaeth fy mod nawr yn gallu darllen a deall testun mwy rhydd. Dwi nawr yn gallu cwblhau ffurflenni dwi angen i waith heb feddwl ddwywaith pan fyswn wedi cael trafferth o blaen.

Pin It on Pinterest

Share This

Share This

Share this post with your friends!