Y Rhaglen Recriwtiaid Ifanc

Beth yn union ydy’r Rhaglen Recriwtiaid Ifanc?

Bydd cefnogaeth wedi’i thargedu ar gael i greu cyfleoedd ychwanegol i bobl ifanc gael mynediad at leoedd prentisiaeth o ansawdd.  Gall y rhaglen fod o fudd i:

Gyflogwyr mawr sydd eisoes yn cynnig rhaglenni prentisiaeth o ansawdd uchel ac sy’n gallu ymestyn eu rhaglenni i gymryd dysgwyr ychwanegol
Gyflogwyr bach a chanolig yn gweithio’n unigol neu mewn partneriaeth i gynnig cyfleoedd prentisiaeth ychwanegol ble mae angen i gynnal gweithlu sgiliau uchel ar gyfer yr adeg bydd adfywio i’r economi.

Meini Prawf y Rhaglen Recriwtiaid Ifanc

Rhaid i bob cyflogwr:

Allu cynnig lle(oedd) prentisiaid llawn-amser ychwanegol hy isafswm o 25 awr yn cynnwys amser gyda’r darparwr
Dalu’r isafswm cyflog priodol ar gyfer prentisiaid (neu unrhyw rheoliadau Isafswm Cyflog Cenedlaethol allai fod yn briodol)
Allu tystioli taliad i’w ddysgwr gyda chopiau ardystiedig o slipiau cyflog neu gyfriflen banc

Ni allem gynnig y gefnogaeth heb y dystiolaeth yma.

Rhaid i ddysgwyr fod :

Rhwng 16 a 24 mlwydd oedar adeg gwneud cais
Yn byw a/neu weithio yng Nghymru
Yn gyflogedig gan yr ymgeisydd am lai na 10 wythnos ar adeg gwneud cais
Wedi’u cofrestru ar fframwaith prentisiaeth lefel 2 neu 3 gyda darparwr wedi’i gontractio gan Lywodraeth Cymru fel darparwr dysgu seiliedig ar waith

Am fwy o wybodaeth cysylltwch â:

Terri Williams Ffôn: 01286 677275  ebost   terri@adt.ac.uk

Pin It on Pinterest

Share This