Gweithgynhyrchu Bwyd a Diod

Mae diwydiant bwyd a diod y DU yn un o’r sectorau gweithgynhyrchu mwyaf a mwyaf cystadleuol yn y byd, ac yn cyflogi dros 500,000 o bobl mewn dros 7000 o gwmnïau gwahanol. Gweithgynhyrchwyr bwyd yw’r ddolen gyswllt hanfodol yn y gadwyn cyflenwi bwyd.

Drwy gyflawni cymhwyster neu gymwysterau Gweithgynhyrchu Bwyd ar y lefel briodol, byddwch yn datblygu ac yn cryfhau’r sgiliau sy’n angenrheidiol i weithio’n effeithlon yn y diwydiant gweithgynhyrchu bwyd a diod.

Pam Gweithgynhyrchu Bwyd a Diod?

  • Mae cyfleoedd ar gael ar hyd a lled y DU
  • Mae’n bosib y bydd modd trosglwyddo’r sgiliau a ddysgir i swyddogaethau gweithgynhyrchu mewn diwydiannau eraill
  • Bydd y cymwysterau a enillir yn cael eu cydnabod gan gyflogwyr ac yn fantais wirioneddol pan fyddwch yn meddwl am ddyrchafiad neu wneud cais am swydd

Y Fframwaith Prentisiaethau

Mae’r Fframwaith Prentisiaethau’n cynnwys cyfres o gymwysterau, sef QCF(NVQ), Sgiliau Hanfodol a Thystysgrif Dechnegol fel arfer. Mae’r Cyngor Sgiliau Sector perthnasol sy’n gyfrifol am Gweithgynhyrchu Bwyd a Diod wedi cytuno ar y cymwysterau hyn.

Bydd yr amser a gymerir i gwblhau’r fframwaith prentisiaethau’n amrywio o’r naill unigolyn i’r llall, ond dylech ddisgwyl ei gwblhau mewn 12 i 15 mis. Yn ystod y sesiwn gynefino, cytunir ar Gynllun Dysgu Unigol a bydd hwn yn cael ei roi at ei gilydd a’i bersonoli ar eich cyfer chi.

Gan ddibynnu ar eich swyddogaeth bresennol ac ar yr hyn rydych wedi’i ddysgu’n flaenorol, gellir mynd ati i ddysgu ar unrhyw un o’r lefelau canlynol. Pan fyddwch wedi cwblhau’r lefel mae’n bosib y cewch gyfle i fynd ymlaen i’r lefel nesaf.

  • Lefel 2 – Prentisiaeth Sylfaenol

Y Cam Nesaf

Cysylltwch ag un o’n Cydlynwyr Hyfforddiant cymwys a fydd yn gallu eich cynorthwyo i benderfynu pa lefel sy’n addas ar eich cyfer chi.

Pin It on Pinterest

Share This