Gwasanaethau Glanhau & Cefnogi

Mae’r Brentisiaeth hon yn gyfle i chi ddysgu am wahanol agweddau ar lanhau proffesiynol, o lanhau’r stryd gyda pheiriannau i gynnal a chadw lloriau caled. Mae mwy i lanhau nag y mae pobl yn ei sylweddoli. Mae angen glanhau amrywiaeth aruthrol o bethau, a gall glanhawyr weithiau fod yn gweithio ar safle damwain neu drosedd, mewn ysbytai, ffatrïoedd risg uchel neu flociau swyddfeydd diogelwch uchel.

Gall y gwaith olygu gweithio gyda chemegion peryglus, peiriannau mawr, gweithio ar uchder neu mewn llefydd cyfyng yn gwisgo a defnyddio dillad a chyfarpar diogelwch.

Pam Gwasanaethau Glanhau a Chefnogi?

  • Mae cyfleoedd ar gael ar draws y Deyrnas Unedig
  • Fel Prentis byddwch yn dysgu amrywiaeth o sgiliau y gallwch eu trosglwyddo, gan gynnwys iechyd a diogelwch, gweithio’n effeithio gyda chwsmeriaid, cynnal a chadw a mân waith trwsio, a gweithio cyfarpar a pheiriannau
  • Mae’r cymwysterau a enillwch yn cael eu cydnabod gan gyflogwyr yn y diwydiant a byddant o fantais fawr i chi wrth feddwl am ddyrchafiad neu ymgeisio am swydd

Y Fframwaith Prentisiaethau

Mae’r Fframwaith Prentisiaethau’n cynnwys cyfres o gymwysterau, cymhwyster seiliedig ar gymhwysedd, cymhwyster seiliedig ar wybodaeth, sgiliau hanfodol a hawliau & cyfrifoldebau’r gweithiwr. Cytunwyd ar y cymwysterau hyn gan y Cyngor Sgiliau Sector perthnasol sy’n gyfrifol am Wasanaethau Glanhau & Cefnogi.

Mae’r amser a gymerir i gwblhau’r fframwaith prentisiaethau’n amrywio o un person i’r llall ond dylech ddisgwyl gallu ei gwblhau o fewn 12 mis. Yn ystod eich cwrs cynefino, cytunir ar Gynllun Dysgu Unigol ar eich cyfer, sy’n cael ei bersonoleiddio ar gyfer eich dysgu.

Gan ddibynnu ar eich swydd bresennol a’ch dysgu blaenorol, gallwch ddysgu ar un o’r lefelau canlynol. Unwaith y byddwch wedi gorffen y lefel honno, gallwch symud ymlaen at y nesaf.

  • Lefel 2 – Prentisiaeth Sylfaen
  • Lefel 3 – Prentisiaeth

Y Cam Nesaf

Cysylltu ag un o’n Cydgysylltwyr Hyfforddiant fydd yn gallu eich helpu i benderfynu pa lefel sy’n addas i chi.

Pin It on Pinterest

Share This