Cyrsiau Byr

Gwnewch y gorau o’ch potensial drwy ennill cymwysterau galwedigaethol achrededig sy’n cael eu cydnabod yn genedlaethol.

Diogelwch Bwyd

    Beth ydyw?
  • Dyfarniad Lefel 2 a gydnabyddir yn genedlaethol mewn Diogelwch Bwyd
  • Cwrs diwrnod llawn i ennill cymhwyster a gydnabyddir yn genedlaethol
Pam mae’n bwysig?

Mae rheoliadau diogelwch bwyd yn ei gwneud yn ofynnol i bawb sy’n ‘trin bwyd’ gael hyfforddiant priodol ym maes diogelwch bwyd. Mae pobl sy’n ‘trin bwyd’ yn cynnwys y rheini sy’n paratoi, yn gwerthu ac yn gweini bwyd. Mae hyn yn gynwysedig mewn nifer o swyddi megis gwaith bar, gwaith mewn ceginau, gweinyddu, gwaith mewn cartrefi gofal ac ati.

Iechyd a Diogelwch

    Beth ydyw?
  • Dyfarniad Lefel 2 a gydnabyddir yn genedlaethol mewn Iechyd a Diogelwch yn y Gweithle
  • Cwrs diwrnod llawn i ennill cymhwyster a gydnabyddir yn genedlaethol
Pam mae’n bwysig?

Mae’n ofyniad statudol bod staff yn cael hyfforddiant priodol ym maes Iechyd a Diogelwch ar gyfer eu swyddogaeth benodol. Mae’r cwrs hwn yn ymdrin ag amrywiaeth o destunau, gan ddarparu hyfforddiant addas ar gyfer y rhan fwyaf o swyddogaethau.

Codi a Symud Llwythi

    Beth ydyw?
  • Dyfarniad Lefel 2 a gydnabyddir yn genedlaethol mewn Egwyddorion Codi a Symud Llwythi
  • Cwrs 3 awr i ennill cymhwyster a gydnabyddir yn genedlaethol
Pam mae’n bwysig?

Mae’n ofyniad statudol bod y rheini sy’n gorfod codi a symud llwythi yn cael yr hyfforddiant priodol.

Hyfforddiant Tryciau Codi

    Beth ydyw?
  • Cymhwyster a gydnabyddir yn genedlaethol
  • Rhaglen rhwng 1 a 5 diwrnod o hyd, yn dibynnu ar brofiad blaenorol, sy’n ymdrin â’r ochr ymarferol a’r ochr theori
Pam mae’n bwysig?

Mae’n bodloni’r gofynion statudol ar gyfer y rheini sy’n gweithio tryciau codi ymestyn neu wrthbwyso diwydiannol fel rhan o’u swydd.

I gael mwy o wybodaeth cysylltwch ag:

Edgar Evans | 01286 677275 | edgar@adt.ac.uk

Pin It on Pinterest

Share This