Adwerthu

Mae’r diwydiant adwerthu yn cyflogi dros 3 miliwn o bobl yn y DU, sy’n gyfwerth ag 11% o weithlu’r DU. Mae diwylliant y diwydiant adwerthu’n cael ei yrru gan fasnach ac o’r herwydd ceir pwysau i berfformio. Oherwydd natur ddynamig y busnes, rhaid cael agwedd hyblyg.

Drwy gyflawni cymhwyster neu gymwysterau Adwerthu ar y lefel briodol, byddwch yn datblygu ac yn cryfhau’r sgiliau sy’n angenrheidiol i weithio’n effeithlon yn yr amgylchedd adwerthu.

Pam Adwerthu?

  • Gellir trosglwyddo’r sgiliau a ddysgir i feysydd galwedigaethol eraill ac mae’r rhagolygon ar gyfer cael dyrchafiad yn rhagorol
  • Mae’n ddiwydiant dynamig a hyblyg
  • Bydd y cymwysterau a enillir yn cael eu cydnabod gan gyflogwyr ac yn fantais wirioneddol pan fyddwch yn meddwl am ddyrchafiad neu wneud cais am swydd

Y Fframwaith Prentisiaethau

Mae’r Fframwaith Prentisiaethau’n cynnwys cyfres o gymwysterau, sef QCF(NVQ), Sgiliau Hanfodol a Thystysgrif mewn Gwybodaeth Adwerthu fel arfer. Mae’r Cyngor Sgiliau Sector perthnasol sy’n gyfrifol am Adwerthu wedi cytuno ar y cymwysterau hyn.

Bydd yr amser a gymerir i gwblhau’r fframwaith prentisiaethau’n amrywio o’r naill unigolyn i’r llall, ond dylech ddisgwyl ei gwblhau o fewn 12 i 14 mis. Yn ystod y sesiwn gynefino, cytunir ar Gynllun Dysgu Unigol a bydd hwn yn cael ei roi at ei gilydd a’i bersonoli ar eich cyfer chi.

Gan ddibynnu ar eich swyddogaeth bresennol ac ar yr hyn rydych wedi’i ddysgu’n flaenorol, gellir mynd ati i ddysgu ar unrhyw un o’r lefelau canlynol. Pan fyddwch wedi cwblhau’r lefel mae’n bosib y cewch gyfle i fynd ymlaen i’r lefel nesaf.

  • Lefel 2 – Prentisiaeth Sylfaenol
  • Lefel 3 – Prentisiaeth

Y Cam Nesaf

Cysylltwch ag un o’n Cydlynwyr Hyfforddiant cymwys a fydd yn gallu eich cynorthwyo i benderfynu pa lefel sy’n addas ar eich cyfer chi.

Pin It on Pinterest

Share This